Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 28 Chwefror 2023
Amser:
09.00 -
10.04
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mercher
Gwnaeth y Trefnydd gais i ddadleuon y gwrthbleidiau gael eu haildrefnu i alluogi Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i ymateb i ddadl y Ceidwadwyr ar y Gymraeg. Ar y sail honno, gwnaed y newidiadau a ganlyn:
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Yn dilyn trafodaeth am weithredu diwydiannol a gyhoeddwyd ar gyfer 15 Mawrth, cytunwyd ar y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 7 Mawrth 2023
Dydd Mawrth 14 Mawrth 2023
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Yn dilyn trafodaeth am weithredu diwydiannol a gyhoeddwyd ar gyfer 15 Mawrth, cytunwyd ar y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 14 Mawrth 2023 -
· Cwestiynau Amserol (20 munud) Symudwyd o 15 Mawrth
Dydd Mercher 15 Mawrth 2023 –
Dydd Mercher 22 Mawrth 2023 –
3.4 Effaith gweithredu diwydiannol arfaethedig.
Trafododd y Pwyllgor Busnes effaith gweithredu diwydiannol a gyhoeddwyd ar gyfer 15 Mawrth a chytunodd fel a ganlyn:
· i aildrefnu cyfarfodydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i fore dydd Mawrth 14 Mawrth;
· i ddiwygio amserlenni Busnes y Llywodraeth a Busnes y Senedd a amlinellir uchod, gyda'r effaith na fydd Cyfarfod Llawn yn cael ei drefnu ar gyfer dydd Mercher 15 Mawrth;
· ddiwygio'r terfynau amser ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Llafar a Chwestiynau Amserol i'w hateb ar 14 Mawrth i ddydd Mawrth 7 Mawrth; a
· diwygio'r terfynau amser ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Llafar a chynigion i’w trafod ar 22 Mawrth i ddydd Mawrth 14 Mawrth.
4 Deddfwriaeth
4.1 Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) - amserlen
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cyfeirio Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith i ystyried yr egwyddorion cyffredinol, a gohirio penderfyniad ar amserlen y Bil er mwyn ymgynghori â'r Pwyllgor cyn dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.
4.2 Ymateb gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl).
Nododd y Pwyllgor Busnes yr ymateb a gafwyd gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd i'w lythyr ynghylch gosod y Memorandwm yn hwyr a'r effaith a gaiff hynny ar yr amser sydd ar gael i graffu.
4.3 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 5) ar gyfer y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio).
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a phryderon y Pwyllgor ynghylch goblygiadau diwygiadau hwyr gan Lywodraeth y DU ar allu pwyllgorau i graffu ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol.
4.4 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch ei adroddiad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio).
Nododd y Pwyllgor Busnes argymhellion 5 a 14 a wnaed gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn ei adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddychwelyd at y ddau fater a godwyd ar yr adeg berthnasol. Nodwyd yn arbennig y byddai angen ystyried gofynion Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) (o ran amser eistedd y pwyllgor a'r Cyfarfod Llawn) wrth gadarnhau dyddiadau ar gyfer tymor yr hydref a thoriad y Nadolig.
4.5 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch Rheol Sefydlog 30A - cydsyniad mewn perthynas ag offerynnau statudol a wneir gan Weinidogion y DU
Nododd Pwyllgor Busnes fod y Llywydd yn bwriadu ysgrifennu at y Prif Weinidog ynghylch ei disgwyliadau ar fater cydsyniad y Senedd mewn perthynas ag offerynnau statudol a wneir gan Weinidogion y DU. Cydnabuwyd hefyd y byddai opsiynau ar gyfer adolygu Rheol Sefydlog 30A (ochr yn ochr â Rheolau Sefydlog cysylltiedig) yn cael eu dwyn i'r Pwyllgor Busnes maes o law fel rhan o'i raglen ehangach ar gyfer adolygiad gweithdrefnol.
4.6 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch adolygiad y Pwyllgor Busnes o’r weithdrefn Bil Aelod
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a chytunodd i ystyried diweddariad ar ei raglen waith gweithdrefnol dros yr wythnosau nesaf, ar ôl i'r gwaith presennol ar bleidleisio drwy ddirprwy ddod i ben, er mwyn rhoi ystyriaeth bellach i flaenoriaethu gwaith arall yn ymwneud ag adolygu ystod o faterion gweithdrefnol.
4.7 Papur i’w nodi - Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch gwaith craffu ar oblygiadau ariannol Biliau.
Nododd y Pwyllgor Busnes yr ohebiaeth ddiweddaraf rhwng Llywodraeth Cymru a'r Pwyllgor Cyllid ar y mater hwn.
5 Adolygiad o bleidleisio drwy ddirprwy
5.1 Meysydd posibl ar gyfer ymestyn: materion i'w trafod
Trafododd y Pwyllgor Busnes yr ymatebion i'w ymgynghoriad ag Aelodau ac ystod o faterion yn ymwneud â meysydd posibl ar gyfer ymestyn pleidleisio drwy ddirprwy fel rhan o'i adolygiad.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymgynghori ymhellach â'u grwpiau pleidiau ar sail consensws sy'n dod i'r amlwg ynghylch ymestyn darpariaethau pleidleisio drwy ddirprwy i gynnwys salwch neu anaf hirdymor Aelod, cyfrifoldebau gofalu am ddibynnydd sydd â salwch neu anaf hirdymor ac absenoldeb oherwydd profedigaeth, a dychwelyd at drafodaeth bellach yn ei gyfarfod ar 14 Mawrth.
Datganodd Darren Millar wrthwynebiad y Grŵp Ceidwadol i gadw neu ymestyn darpariaethau presennol pleidleisio drwy ddirprwy.